Add parallel Print Page Options

10 A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i’w urddo ef yn frenin. A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o’r Aifft. Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o’i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a’th wasanaethwn di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A’r bobl a aethant ymaith.

A’r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â’r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn? A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Os byddi yn dda i’r bobl yma, a’u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth. Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â’r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a’r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni? 10 A’r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad. 11 Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau. 12 Yna y daeth Jeroboam, a’r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd. 13 A’r brenin a’u hatebodd hwynt yn arw: a’r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid; 14 Ac efe a lefarodd wrthynt yn ôl cyngor y gwŷr ieuainc, gan ddywedyd, Fy nhad a wnaeth eich iau chwi yn drom, a minnau a chwanegaf arni hi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf chwi ag ysgorpionau. 15 Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw, fel y cwblhâi yr Arglwydd ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.

16 A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i’w pebyll, edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i’w pebyll. 17 Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy. 18 A’r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i’w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem. 19 Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.