Add parallel Print Page Options

Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a’m gwaredodd. Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a’u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi. Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o’r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed. A rhifedi y rhai a godasant y dwfr â’u llaw at eu genau, oedd dri channwr: a’r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Trwy’r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i’w fangre ei hun. Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a’u hutgyrn; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel, pob un i’w babell, a’r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.

A’r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cyfod, dos i waered i’r gwersyll; canys mi a’i rhoddais yn dy law di. 10 Ac od wyt yn ofni myned i waered, dos di a Phura dy lanc i waered i’r gwersyll: 11 A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i waered i’r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phura ei lanc, i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll. 12 A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra. 13 A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i trawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell. 14 A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef.

15 A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a’i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi. 16 Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau. 18 Pan utganwyf fi mewn utgorn, myfi a’r holl rai sydd gyda mi, utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll, a dywedwch, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.

19 Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a’r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol, a’r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo. 20 A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon. 21 A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a’r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd. 22 A’r tri chant a utganasant ag utgyrn; a’r Arglwydd a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy’r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth‐sitta, yn Sererath, hyd fin Abel‐mehola, hyd Tabbath. 23 A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Nafftali, ac o Aser, ac o holl Manasse, ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid.

24 A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen. 25 A daliasant ddau o dywysogion Midian, Oreb a Seeb; a lladdasant Oreb ar graig Oreb, a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb, ac a erlidiasant Midian, ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon, i’r tu arall i’r Iorddonen.

Gideon Defeats the Midianites

Early in the morning, Jerub-Baal(A) (that is, Gideon(B)) and all his men camped at the spring of Harod.(C) The camp of Midian(D) was north of them in the valley near the hill of Moreh.(E) The Lord said to Gideon, “You have too many men. I cannot deliver Midian into their hands, or Israel would boast against me, ‘My own strength(F) has saved me.’ Now announce to the army, ‘Anyone who trembles with fear may turn back and leave Mount Gilead.(G)’” So twenty-two thousand men left, while ten thousand remained.

But the Lord said to Gideon, “There are still too many(H) men. Take them down to the water, and I will thin them out for you there. If I say, ‘This one shall go with you,’ he shall go; but if I say, ‘This one shall not go with you,’ he shall not go.”

So Gideon took the men down to the water. There the Lord told him, “Separate those who lap the water with their tongues as a dog laps from those who kneel down to drink.” Three hundred of them(I) drank from cupped hands, lapping like dogs. All the rest got down on their knees to drink.

The Lord said to Gideon, “With the three hundred men that lapped I will save you and give the Midianites into your hands.(J) Let all the others go home.”(K) So Gideon sent the rest of the Israelites home but kept the three hundred, who took over the provisions and trumpets of the others.

Now the camp of Midian lay below him in the valley. During that night the Lord said to Gideon, “Get up, go down against the camp, because I am going to give it into your hands.(L) 10 If you are afraid to attack, go down to the camp with your servant Purah 11 and listen to what they are saying. Afterward, you will be encouraged to attack the camp.” So he and Purah his servant went down to the outposts of the camp. 12 The Midianites, the Amalekites(M) and all the other eastern peoples had settled in the valley, thick as locusts.(N) Their camels(O) could no more be counted than the sand on the seashore.(P)

13 Gideon arrived just as a man was telling a friend his dream. “I had a dream,” he was saying. “A round loaf of barley bread came tumbling into the Midianite camp. It struck the tent with such force that the tent overturned and collapsed.”

14 His friend responded, “This can be nothing other than the sword of Gideon son of Joash,(Q) the Israelite. God has given the Midianites and the whole camp into his hands.”

15 When Gideon heard the dream and its interpretation, he bowed down and worshiped.(R) He returned to the camp of Israel and called out, “Get up! The Lord has given the Midianite camp into your hands.”(S) 16 Dividing the three hundred men(T) into three companies,(U) he placed trumpets(V) and empty jars(W) in the hands of all of them, with torches(X) inside.

17 “Watch me,” he told them. “Follow my lead. When I get to the edge of the camp, do exactly as I do. 18 When I and all who are with me blow our trumpets,(Y) then from all around the camp blow yours and shout, ‘For the Lord and for Gideon.’”

19 Gideon and the hundred men with him reached the edge of the camp at the beginning of the middle watch, just after they had changed the guard. They blew their trumpets and broke the jars(Z) that were in their hands. 20 The three companies blew the trumpets and smashed the jars. Grasping the torches(AA) in their left hands and holding in their right hands the trumpets they were to blow, they shouted, “A sword(AB) for the Lord and for Gideon!” 21 While each man held his position around the camp, all the Midianites ran, crying out as they fled.(AC)

22 When the three hundred trumpets sounded,(AD) the Lord caused the men throughout the camp to turn on each other(AE) with their swords.(AF) The army fled to Beth Shittah toward Zererah as far as the border of Abel Meholah(AG) near Tabbath. 23 Israelites from Naphtali, Asher(AH) and all Manasseh were called out,(AI) and they pursued the Midianites.(AJ) 24 Gideon sent messengers throughout the hill country of Ephraim, saying, “Come down against the Midianites and seize the waters of the Jordan(AK) ahead of them as far as Beth Barah.”

So all the men of Ephraim were called out and they seized the waters of the Jordan as far as Beth Barah. 25 They also captured two of the Midianite leaders, Oreb and Zeeb(AL). They killed Oreb at the rock of Oreb,(AM) and Zeeb at the winepress of Zeeb. They pursued the Midianites(AN) and brought the heads of Oreb and Zeeb to Gideon, who was by the Jordan.(AO)