Add parallel Print Page Options

15 Ateb arafaidd a ddetry lid: ond gair garw a gyffry ddigofaint. Tafod y synhwyrol a draetha wybodaeth yn dda: ond genau y ffyliaid a dywallt ffolineb. Ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd, yn canfod y drygionus a’r daionus. Pren y bywyd yw tafod iach: ond trawsedd ynddo sydd rwyg yn yr ysbryd. Dyn ffôl a ddiystyra addysg ei dad: ond y neb a ddioddefo gerydd, sydd gall. Yn nhŷ y cyfiawn y bydd mawr gyfoeth: ond am olud yr annuwiol y mae trallod. Gwefusau y doethion a wasgarant wybodaeth: ond calon y ffyliaid ni wna felly. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr uniawn sydd hoff ganddo. Ffordd yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond efe a gâr y neb a ddilyn gyfiawnder. 10 Cerydd sydd flin gan y neb a dry oddi ar y ffordd: a’r neb a gasao gerydd, a fydd marw. 11 Uffern a dinistr sydd gerbron yr Arglwydd: pa faint mwy, calonnau plant dynion? 12 Ni châr y gwatwarwr mo’r neb a’i ceryddo; ac nid â at y doethion. 13 Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd. 14 Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb. 15 Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen. 16 Gwell yw ychydig gydag ofn yr Arglwydd, na thrysor mawr a thrallod gydag ef. 17 Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef. 18 Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson. 19 Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad. 20 Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam. 21 Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn. 22 Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt. 23 Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser! 24 Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry. 25 Yr Arglwydd a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw. 26 Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd: ond geiriau y glân ŷnt beraidd. 27 Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw. 28 Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg. 29 Pell yw yr Arglwydd oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn. 30 Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn. 31 Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion. 32 Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall. 33 Addysg doethineb yw ofn yr Arglwydd; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.