Add parallel Print Page Options

16 Anfonwch oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion. Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad. Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir. A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.

Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau. Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd. Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.

Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd. 10 Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio. 11 Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cir‐hares.

12 A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo. 13 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw. 14 Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym.