Add parallel Print Page Options

16 A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft. A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt. Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd. A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft. Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn? Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.

A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. 10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmwl.

11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. 14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear. 15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwyta.

16 Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll. 17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai. 18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta. 19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore. 20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt. 21 A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.

22 Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore. 24 A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo. 25 A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw. 26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.

27 Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim. 28 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau? 29 Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd. 30 Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd. 31 A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.

32 A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft. 33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau. 34 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth. 35 A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan. 36 A’r omer ydoedd ddegfed ran effa.

Manna and Quail

16 The whole Israelite community set out from Elim and came to the Desert of Sin,(A) which is between Elim and Sinai, on the fifteenth day of the second month after they had come out of Egypt.(B) In the desert the whole community grumbled(C) against Moses and Aaron. The Israelites said to them, “If only we had died by the Lord’s hand in Egypt!(D) There we sat around pots of meat and ate all the food(E) we wanted, but you have brought us out into this desert to starve this entire assembly to death.”(F)

Then the Lord said to Moses, “I will rain down bread from heaven(G) for you. The people are to go out each day and gather enough for that day. In this way I will test(H) them and see whether they will follow my instructions. On the sixth day they are to prepare what they bring in, and that is to be twice(I) as much as they gather on the other days.”

So Moses and Aaron said to all the Israelites, “In the evening you will know that it was the Lord who brought you out of Egypt,(J) and in the morning you will see the glory(K) of the Lord, because he has heard your grumbling(L) against him. Who are we, that you should grumble against us?”(M) Moses also said, “You will know that it was the Lord when he gives you meat to eat in the evening and all the bread you want in the morning, because he has heard your grumbling(N) against him. Who are we? You are not grumbling against us, but against the Lord.”(O)

Then Moses told Aaron, “Say to the entire Israelite community, ‘Come before the Lord, for he has heard your grumbling.’”

10 While Aaron was speaking to the whole Israelite community, they looked toward the desert, and there was the glory(P) of the Lord appearing in the cloud.(Q)

11 The Lord said to Moses, 12 “I have heard the grumbling(R) of the Israelites. Tell them, ‘At twilight you will eat meat, and in the morning you will be filled with bread. Then you will know that I am the Lord your God.’”(S)

13 That evening quail(T) came and covered the camp, and in the morning there was a layer of dew(U) around the camp. 14 When the dew was gone, thin flakes like frost(V) on the ground appeared on the desert floor. 15 When the Israelites saw it, they said to each other, “What is it?” For they did not know(W) what it was.

Moses said to them, “It is the bread(X) the Lord has given you to eat. 16 This is what the Lord has commanded: ‘Everyone is to gather as much as they need. Take an omer[a](Y) for each person you have in your tent.’”

17 The Israelites did as they were told; some gathered much, some little. 18 And when they measured it by the omer, the one who gathered much did not have too much, and the one who gathered little did not have too little.(Z) Everyone had gathered just as much as they needed.

19 Then Moses said to them, “No one is to keep any of it until morning.”(AA)

20 However, some of them paid no attention to Moses; they kept part of it until morning, but it was full of maggots and began to smell.(AB) So Moses was angry(AC) with them.

21 Each morning everyone gathered as much as they needed, and when the sun grew hot, it melted away. 22 On the sixth day, they gathered twice(AD) as much—two omers[b] for each person—and the leaders of the community(AE) came and reported this to Moses. 23 He said to them, “This is what the Lord commanded: ‘Tomorrow is to be a day of sabbath rest, a holy sabbath(AF) to the Lord. So bake what you want to bake and boil what you want to boil. Save whatever is left and keep it until morning.’”

24 So they saved it until morning, as Moses commanded, and it did not stink or get maggots in it. 25 “Eat it today,” Moses said, “because today is a sabbath to the Lord. You will not find any of it on the ground today. 26 Six days you are to gather it, but on the seventh day, the Sabbath,(AG) there will not be any.”

27 Nevertheless, some of the people went out on the seventh day to gather it, but they found none. 28 Then the Lord said to Moses, “How long will you[c] refuse to keep my commands(AH) and my instructions? 29 Bear in mind that the Lord has given you the Sabbath; that is why on the sixth day he gives you bread for two days. Everyone is to stay where they are on the seventh day; no one is to go out.” 30 So the people rested on the seventh day.

31 The people of Israel called the bread manna.[d](AI) It was white like coriander seed and tasted like wafers made with honey. 32 Moses said, “This is what the Lord has commanded: ‘Take an omer of manna and keep it for the generations to come, so they can see the bread I gave you to eat in the wilderness when I brought you out of Egypt.’”

33 So Moses said to Aaron, “Take a jar and put an omer of manna(AJ) in it. Then place it before the Lord to be kept for the generations to come.”

34 As the Lord commanded Moses, Aaron put the manna with the tablets of the covenant law,(AK) so that it might be preserved. 35 The Israelites ate manna(AL) forty years,(AM) until they came to a land that was settled; they ate manna until they reached the border of Canaan.(AN)

36 (An omer(AO) is one-tenth of an ephah.)(AP)

Footnotes

  1. Exodus 16:16 That is, possibly about 3 pounds or about 1.4 kilograms; also in verses 18, 32, 33 and 36
  2. Exodus 16:22 That is, possibly about 6 pounds or about 2.8 kilograms
  3. Exodus 16:28 The Hebrew is plural.
  4. Exodus 16:31 Manna sounds like the Hebrew for What is it? (see verse 15).