Add parallel Print Page Options

23 Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt. Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd. Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth; A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi. Eithr na’ch galwer chwi Rabbi: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10 Ac na’ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. 11 A’r mwyaf ohonoch a fydd yn weinidog i chwi. 12 A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.

13 Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn. 14 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo: am hynny y derbyniwch farn fwy. 15 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain. 16 Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled. 17 Ffyliaid, a deillion: canys pa un sydd fwyaf, yr aur, ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18 A phwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled. 19 Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hyn oll sydd arni. 21 A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22 A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni. 23 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu’r mintys, a’r anis, a’r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd gwneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio. 24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel. 25 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb. 26 Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt. 27 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid. 28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd. 29 Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, ac yn addurno beddau’r rhai cyfiawn; 30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi. 31 Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi. 32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau. 33 O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern?

34 Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref. 35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a’r a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor. 36 Yn wir meddaf i chwi, Daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. 37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39 Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.

A Warning Against Hypocrisy(A)(B)

23 Then Jesus said to the crowds and to his disciples: “The teachers of the law(C) and the Pharisees sit in Moses’ seat. So you must be careful to do everything they tell you. But do not do what they do, for they do not practice what they preach. They tie up heavy, cumbersome loads and put them on other people’s shoulders, but they themselves are not willing to lift a finger to move them.(D)

“Everything they do is done for people to see:(E) They make their phylacteries[a](F) wide and the tassels on their garments(G) long; they love the place of honor at banquets and the most important seats in the synagogues;(H) they love to be greeted with respect in the marketplaces and to be called ‘Rabbi’ by others.(I)

“But you are not to be called ‘Rabbi,’ for you have one Teacher, and you are all brothers. And do not call anyone on earth ‘father,’ for you have one Father,(J) and he is in heaven. 10 Nor are you to be called instructors, for you have one Instructor, the Messiah. 11 The greatest among you will be your servant.(K) 12 For those who exalt themselves will be humbled, and those who humble themselves will be exalted.(L)

Seven Woes on the Teachers of the Law and the Pharisees

13 “Woe to you, teachers of the law and Pharisees, you hypocrites!(M) You shut the door of the kingdom of heaven in people’s faces. You yourselves do not enter, nor will you let those enter who are trying to.(N) [14] [b]

15 “Woe to you, teachers of the law and Pharisees, you hypocrites! You travel over land and sea to win a single convert,(O) and when you have succeeded, you make them twice as much a child of hell(P) as you are.

16 “Woe to you, blind guides!(Q) You say, ‘If anyone swears by the temple, it means nothing; but anyone who swears by the gold of the temple is bound by that oath.’(R) 17 You blind fools! Which is greater: the gold, or the temple that makes the gold sacred?(S) 18 You also say, ‘If anyone swears by the altar, it means nothing; but anyone who swears by the gift on the altar is bound by that oath.’ 19 You blind men! Which is greater: the gift, or the altar that makes the gift sacred?(T) 20 Therefore, anyone who swears by the altar swears by it and by everything on it. 21 And anyone who swears by the temple swears by it and by the one who dwells(U) in it. 22 And anyone who swears by heaven swears by God’s throne and by the one who sits on it.(V)

23 “Woe to you, teachers of the law and Pharisees, you hypocrites! You give a tenth(W) of your spices—mint, dill and cumin. But you have neglected the more important matters of the law—justice, mercy and faithfulness.(X) You should have practiced the latter, without neglecting the former. 24 You blind guides!(Y) You strain out a gnat but swallow a camel.

25 “Woe to you, teachers of the law and Pharisees, you hypocrites! You clean the outside of the cup and dish,(Z) but inside they are full of greed and self-indulgence.(AA) 26 Blind Pharisee! First clean the inside of the cup and dish, and then the outside also will be clean.

27 “Woe to you, teachers of the law and Pharisees, you hypocrites! You are like whitewashed tombs,(AB) which look beautiful on the outside but on the inside are full of the bones of the dead and everything unclean. 28 In the same way, on the outside you appear to people as righteous but on the inside you are full of hypocrisy and wickedness.

29 “Woe to you, teachers of the law and Pharisees, you hypocrites! You build tombs for the prophets(AC) and decorate the graves of the righteous. 30 And you say, ‘If we had lived in the days of our ancestors, we would not have taken part with them in shedding the blood of the prophets.’ 31 So you testify against yourselves that you are the descendants of those who murdered the prophets.(AD) 32 Go ahead, then, and complete(AE) what your ancestors started!(AF)

33 “You snakes! You brood of vipers!(AG) How will you escape being condemned to hell?(AH) 34 Therefore I am sending you prophets and sages and teachers. Some of them you will kill and crucify;(AI) others you will flog in your synagogues(AJ) and pursue from town to town.(AK) 35 And so upon you will come all the righteous blood that has been shed on earth, from the blood of righteous Abel(AL) to the blood of Zechariah son of Berekiah,(AM) whom you murdered between the temple and the altar.(AN) 36 Truly I tell you, all this will come on this generation.(AO)

37 “Jerusalem, Jerusalem, you who kill the prophets and stone those sent to you,(AP) how often I have longed to gather your children together, as a hen gathers her chicks under her wings,(AQ) and you were not willing. 38 Look, your house is left to you desolate.(AR) 39 For I tell you, you will not see me again until you say, ‘Blessed is he who comes in the name of the Lord.’[c](AS)

Footnotes

  1. Matthew 23:5 That is, boxes containing Scripture verses, worn on forehead and arm
  2. Matthew 23:14 Some manuscripts include here words similar to Mark 12:40 and Luke 20:47.
  3. Matthew 23:39 Psalm 118:26